Edith EllenTHOMASAwst 29, 2026 Bu farw yn dawel yng nghwmni ei theulu yn ei chartref, Brondywydd, Bryncroes, yn 86 mlwydd oed. Annwyl briod y diweddar Twm; chwaer ffyddlon i Edwin a'r diweddar Hugh, John, William a Julia. Mam a mam-yng-nghyfraith gariadus i Elisabeth a'i diweddar ŵr Keith, Carys a'i gŵr Arwel, Beryl, a'r diweddar Marian a'i gŵr Geraint. Nain a hen nain arbennig i'w holl wyrion a wyresau, a ffrind ffyddlon i lawer.
Cynhelir gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Santes Fair, Bryncroes, ar Medi 14eg am 12.30 o'r gloch, cyn ei rhoi i orffwys yn Eglwys Beuno Sant, Botwnnog, yng nghwmni'r teulu agos.
Blodau'r teulu yn unig. Derbynnir rhoddion yn ddiolchgar er cof am Edith, tuag at nyrsys cymunedol Botwnnog.
G.W. Parry a'i Fab, Gallt y Beren, Rhydyclafdy. 01758 740233
Keep me informed of updates